The Internationale / Yr Undeb rhyngwladol


Welsh words/geiriau Cymraeg : T.E. Nicholas

Deffrowch, orthrymedigion daear,
Cyfodi mae'r newynog lu
Daw gwirioneddau'r bywyd newydd
I chwalu niwl yr oesoedd fu.
Wele gaethion y cystudd hirfaith
Yn ymuno'n fyddin fawr,
I gyhoeddi rhyddid i'r cenhedloedd
Ac i'r ddynolryw doriad gwawr.

Henffych weithwyr y gwledydd,
Dyma'r frwydr ola'i gyd;
Mae'r undeb rhyngwladol yn newid seiliau'r byd.